Cafodd
Clasur Cymru ei rhedeg am y tro cyntaf yn 1984. MOUNTAIN HERO oedd yr enillwr
cyntaf. Roedd yn fuddigoliaeth deimladwy oherwydd bod y ceffyl wedi ei fagu gan
Gareth Davies, ysgrifennydd cyntaf y Clwb. Yn anffodus bu farw Gareth cyn iddo
weld ei geffyl yn ennill yn ei filltir sgwar.
Cyflwynwyd
y cwpan i berchenog a gyrrwr y ceffyl Teifion Thomas. Ac mewn tro rhyfedd
arall, Cwpan Coffa Gareth Lloyd Davies oedd y cwpan. Erbyn hyn mae pob un o
enillwyr Clasur Cymru wedi codi y cwpan.
Mae 22 o geffylau wedi ennill Clasur
Cymru. Cyn enillwyr Clasur Cymru.
Dim ond 3 caseg sy wedi ennill y ras -
BLACK and SILVER (1988); LYONS SURE SIGN (2000) a SHADY ROMANCE (2004)
Nid oes yr un ceffyl wedi ennill Clasur
Cymru mwy nag unwaith
Yr unig farch i genhedlu mwy nag un
enillydd yw RUSSIAN PATROL (Black and Silver,1988 a Russian Square,1979)
MICK LORD yw'r unig yrrwr i ennill
Clasur Cymru 4 gwaith (Black and Silver,1988; George Arthur, 2003; Shady
Romance 2004 a Daydreamer 2005)
TEIFION THOMAS oedd y gyrrwr cyntaf i
ennill mwy nag un Clasur Cymru (Mountain Hero 1984, a The Bounder 1982); Erbyn
hyn mae 3 gyrrwr arall wedi cyflawni'r gamp:
IAN PIMLOTT (All Mac, 1994 a Precocious Fella, 1995) STEVIE LEES (Russian
Square,1985 and Meadowbranch Frank,2006)
MEGAN TAFF (Disraeli Force, 1997 a Saunders Celestial, 1999)
MEGAN TAFF oedd y gyrrwraig gyntaf i
ennill y ras (Disraeli Force, 1997)
BRENDA DEAN oedd yr hyfforddwraig gyntaf
i ennill y ras (Stormy Reveller, 2002)
R MUNDAY yw'r unig perchennog i ennill
y ras mwy nag unwaith (Disraeli Force, 1997 a Saunders Celestial, 1999)
DAVE TAFF a SHEELAGH LORD yw'r unig
hyfforddwyr i ennill y ras mwy nag unwiath (Disraeli Force, 1997 a Saunders
Celestial, 1999 i D Taff; George Arthur,2003 a Shady Romance, 2004, Daydreamer
2005, i S Lord)
MOUNTAIN HERO(1984) yw'r ceffyl sy wedi
hebrwng y mwyaf ag ennill (50 llath);
Mae 2 wedi ennill yn hebrwng 30 llath;
7 yn hebrwng 20 llath; 5 yn hebrwng 10 llath a 6 yn hebrwng y gat.
GEORGE ARTHUR (2003) 2 funud 2.4 eiliad
yw'r enillydd cyflymaf - ac yn cynnal RECORD NEWYDD Y TRAC (ac hebrwng 10
llath!)
Mae'r Albanwyr wedi ennill Clasur Cymru
unwaith,2 ennillydd o Iwerddon, 6 enillydd o Loeger a 12 o Gymru
Y ceffyl hynnaf i ennill Clasur Cymru
yw OUTLAW (1992) yn 10ed. Mae 6 ceffyl 4 oed wedi ennill, 7 ceffyl 5oed, 5
ceffyl 6oed , 2 yn 7 oed a un yn 9 oed.
LYONS SURE SIGN (USA) yw'r unig gwir
americanes i ennill y ras (hynny yw wedi ei geni yn Yr Amerig)
DAYDREAMER yw’r unig
geffyl i ennill Clasur Cymru (2005) a’r Strata Florida (2004)
SHADY ROMANCE yw'r unig un i ennill
Clasur Cymru a ras fawr Musselbrugh