Lleoliad

Mae'r trac wedi ei leoli ar yr B4343 rhwng TREGARON a BONTRHYDFENDIGAID

O'R DE:
O Lanbedr Pont Steffan, cymherwch y A485 tuag at TREGARON. Yn sgwar Tregaron, ewch syth 'mlaen ar yr B4343 tuag at BONTRHYDFENDIGAID. Mae'r trac rhyw 4 milltir o Dregaron (cyn i chi gyrraedd BONTRHYDFENDIGAID).

O'R GOGLEDD:
O ABERYSTWYTH, cymherwch y B4340, drwy BONTRHYDFENDIGAID, ac yna ar y B4343 tuag at TREGARON. Mae'r trac tua milltir y tu allan i BONTRHYDFENDIGAID
neu
O LANGURIG, cymherwch y A44 tuag at ABERYSTWYTH. Ym MhONTERWYD cymherwch y A4120 am Bont ar Fynach (DEVILS BRIDGE). Drwy Bont ar Fynach (DEVILS BRIDGE), yna cymryd y B4343 am DREGARON, drwy BONTRHYDFENDIGAID. Mae'r trac tua milltir y tu allan i BONTRHYDFENDIGAID