Ffurfiwyd Clwb Trotian Tregaron yn wreiddiol yn 1980 fel 'Deri Llanio Racing Comittee' ag yn Neri Llanio ger Llanddewi Brefi cynhaliwyd y rasus cyntaf ym mis Gorffennaf dros ugain mlynedd yn ôl. Ffurfiwyd y clwb i godi safonau a hybi rasus trotian yng Nghymru, heb os ma'r nod wedi ei wireddu gyda chlybiau eraill dros Brydain i gyd yn ceisio efelychu'r wefr sydd yma yn Nhregaron.
Ym 1984 gwelwyd rhedeg y ras trotian fwyaf yng
Nghymru. Yma ar gaeau Dolrychain, ym mis Awst am wobr gyntaf o £1000. Drwy
weledigaeth Glyn Davies, perchennog y cae, dymchwelwyd cloddiau a throi tri o
gaeau yn un. Ffurfiwyd y trac rasio porfa gorau ym Mhrydain. Mae pobl yn methu
credu fod sut drac yn bosib yng nghanol y bryniau - mae safon y trac yn rhan
enfawr o boblogrwydd ac atyniad y rasus.
Enillydd y ras fawr ar y diwrnod hanesyddol hwnnw
oedd MOUNTAIN HERO. Magwyd y ceffyl yn Nhregaron gan ysgrifennydd cyntaf y clwb
Gareth Lloyd Davies. Yn anffodus ni fu Gareth byw i weld gwireddiad o freuddwyd
pob perchennog ceffyl trotian erbyn hyn - ennill TREGARON. Mi roedd yn addas taw Cwpan Coffa Gareth
Lloyd Davies oedd y brif wobr y diwrnod hwnnw ac sydd bob blwyddyn yn cael ei
gyflwyno i enillydd GLASUR CYMRU.
Swyddogion Clwb Trotian Tregaron
LLYWYDD: Mr & Mrs Ieuan Davies
CADEIRYDD:Huw Evans
TRYSORYDD:Donald Patterson
YSGRIFENNYDD:Raymond Jenkins